Search / Chwiliwch

RSS News Feeds /
Porthiant Newyddion RSS

AC yn cynnal digwyddiad ar epilepsi yn y Senedd

22 June 2010

Er mwyn nodi Wythnos Genedlaethol Epilepsi croesawodd yr AC Nerys Evans aelodau o Grŵp Epilepsi Caerfyrddin i’r Senedd yng Nghaerdydd yr wythnos hon. Fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Epilepsi yn y Cynulliad trefnodd Nerys y digwyddiad i drafod materion cyfredol sy’n ymwneud ag epilepsi ac i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Roedd presenoldeb da iawn yn y digwyddiad gyda hyd at 60 o bobl sy’n cael eu heffeithio gan epilepsi yn mynychu o bob cwr o Gymru.

Nerys gyda Grŵp Epilepsi Caerfyrddin/Nerys with Carmarthen's Epilepsy Group

Dywedodd Nerys Evans AC:

“Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Epilepsi ‘roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gynnal y digwyddiad hwn ac, wrth gwrs, i groesawu aelodau o Grŵp Epilepsi Caerfyrddin i’r Senedd. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r mater oherwydd mae dealltwriaeth o’r cyflwr nid yn unig yn gyffredinol isel ymhlith y cyhoedd ond hefyd ymysg gwleidyddion. Dangosodd arolwg a gynhaliwyd yn 2007 nad oedd bron i 90 y cant o ASau a holwyd yn gwybod faint o bobl yn y DU sydd ag epilepsi. Mae’r diffyg ymwybyddiaeth hon yn destun pryder, ac os ydym am wella gwasanaethau ar gyfer y 456,000 o bobl sydd â’r cyflwr yn y DU mae angen i ni sicrhau bod pobl yn ymwybodol ac yn deall y cyflwr yn iawn.

Er bod y ffigurau hyn yn destun pryder rwyf yn teimlo ein bod ni yma yng Nghymru yn arwain y ffordd ar y mater hwn. Wrth gwrs, mae llawer mwy y gellir ac y dylid ei wneud ond mae’n galonogol i wybod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y mater o ddifrif ac wrth gynnal gweithgareddau fel yr un yr wythnos hon rydym yn sicrhau bod y cyflwr ar ben yr agenda wleidyddol. Roedd nifer wedi mynychu’r digwyddiad ac ‘roeddwn yn falch iawn i gael y cyfle i siarad gyda fy etholwyr a gwrando ar eu profiadau personol.”

News Releases
Datganiadau i'r Wasg

News and Journal Archive /
Newyddion ac Archif Nodiadau