Search / Chwiliwch

Bywgraffiad

Ganwyd Nerys Evans yn Llangain, ger Caerfyrddin yn 1980 ac mae’n byw ger ei thref genedigol. Fe astudiodd Nerys ym Mhrifysgol Manceinion ble enillodd radd BA (Anrh) mewn Theori Llywodraethol a Gwleidyddol. Enillodd radd MSc (Gwleidyddiaeth Cymru) ym Mhrifysgol Caerdydd.

Hi yw llefarydd Plaid ar addysg ac mae’n gadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar gyfer epilepsi a bandllydan yng nghefn gwlad Cymru ac mae’n eistedd ar y Pwyllgor Menter a Dysgu.

Cyn dod yn Aelod o’r Cynulliad roedd Nerys yn gweithio fel Swyddog Gwleidyddol i Blaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae wedi gweithio fel Trefnydd i Blaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Swyddog y Wasg i Grwp Plaid Cymru yng Nghyngor Sir Caerfyrddin yn y gorffennol.

Mae diddordebau gwleidyddol Nerys yn cynnwys materion gwledig, apathi pleidleiswyr a hawliau gweithwyr. Yn ei hamser hamdden mae Nerys yn mwynhau cefnogi Sgarlets Llanelli.

News Releases
Datganiadau i'r Wasg

Nerys' Journal
Nodiadau Nerys