Search / Chwiliwch

RSS News Feeds /
Porthiant Newyddion RSS

Nodiadau Mis Mawrth

10 March 2010

Glastir a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ar gyfer Powys

Bydd ffermwyr a phawb sydd â diddordeb yn yr amgylchedd a chefn gwlad yn ymwybodol bod cynllun newydd ar gyfer rheoli tir mewn ffordd gynaliadwy ar fin cael ei gyflwyno yma yng Nghymru, sef Glastir. Cynhaliwyd cyfarfod yng ngwesty’r Royal Oak yn y Trallwng yn ddiweddar i esbonio pwrpas a strategaeth y cynllun Glastir ac os gwnaethoch fynychu’r cyfarfod hwnnw, rwy’n siŵr bod nifer o’ch cwestiynau wedi’u hateb. Fodd bynnag, rwy’n gwybod nad oedd llawer o bobl yn gallu bod yn bresennol ac mae dal pryderon gan rai pobl.

Bydd Glastir yn weithredol o 2012 hyd at 2020 a thu hwnt a bydd yn cymryd lle’r cynlluniau presennol sef Tir Mynydd, Tir Gofal, Tir Cynnal a’r cynlluniau Ffermio Organig.

Bydd gan ffermwyr gontract i reoli’r tir mewn ffordd sy’n bodloni heriau a blaenoriaethau’r presennol, gan gynnwys bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a rheoli dŵr. Y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn darparu sefydlogrwydd ar gyfer ffermwyr yn ogystal â chynorthwyo’r amgylchedd.

Nid oes amheuaeth y bydd y cynllun hwn yn dod a nifer o newidiadau, ond bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod y gymuned ffermio ym Mhowys yn gallu addasu i’r newidiadau hyn a manteisio ar y cyfleoedd y bydd y cynllun hwn yn ei ddarparu. Rwy’n gwybod bod Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, yn gweithio’n agos gyda’r undebau a sefydliadau eraill i gyflwyno rhaglen hyfforddiant helaeth i ffermwyr ar draws Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais i ymuno a’r cynllun Glastir yn gwneud hynny gyda’r wybodaeth a’r hyfforddiant diweddaraf.

Mae’n bwysig bod ffermwyr sydd, ar ôl ystyried y manteision i’w busnes ac i’r amgylchedd, yn dymuno cael mwy o wybodaeth neu i wneud cais i ymuno Glastir yn gwneud hynny nawr. Bydd y broses o wneud cais ar gyfer Glastir yn dechrau trwy ddatgan diddordeb yn y cynllun ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) a fydd yn cael eu hanfon at ffermwyr y mis hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ar wefan y Cynulliad – www.wales.gov.uk / ruraldevelopment.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, bod Powys yn mynd i dderbyn hyd at £431k i fwrw ymlaen â’r cynllun Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau. Bydd cam dau o lwybr Tŷ Tawe Uchaf yn derbyn £235k tra bod Llwybr Glan yr Afon (cam dau) yn y Drenewydd yn derbyn £196K.

Rwy’n falch iawn y bydd Powys yn elwa o’r cynllun hwn a fydd yn galluogi’r Sir i symud ymlaen a chwblhau’r prosiectau pwysig hyn. Pwrpas y cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yw annog defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio, megis cerdded, beicio a chludiant cyhoeddus ar gyfer teithiau lleol. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol os ydym am annog mwy o bobl i gymryd yr opsiwn iachach o gerdded neu feicio.

Penblwydd y Carmarthen Journal a Dadl yr Arweinwyr
Yn gyntaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch papur y Carmarthen Journal ar ei ben-blwydd pwysig diweddar ac wrth gwrs 200 mlynedd o wasanaeth ardderchog ar gyfer ein cymunedau lleol. Ers lansio’r papur yn ystod rhyfeloedd Napoleon mae’r papur wedi ei gynhyrchu bob wythnos heb golli un rhifyn – tipyn o gamp o ystyried bod dyfodol nifer o bapurau newydd lleol o dan fygythiad ar hyn o bryd.

Mae papurau newydd lleol, fel y Journal, yn gwneud cyfraniad hanfodol trwy ddarparu ymdriniaeth newyddion ardderchog o’r hyn sy’n digwydd yn ein cymunedau lleol ac yn wir maen nhw’n rhan o’r hyn sydd yn dal cymuned leol at ei gilydd. Mae’r Journal yn ymgyrchu ar ein rhan ac mae’n rhan hanfodol o ddemocratiaeth leol.

Gyda dathliadau pen-blwydd diweddar y Carmarthen Journal mae’r papur wedi bod yn destun siarad yn ddiweddar. Mae’n eithaf amlwg fod pobl Sir Gaerfyrddin yn gwerthfawrogi rôl y Carmarthen Journal ac yn teimlo rhyw gysylltiad emosiynol â’r papur hwn. Am y rhesymau hyn, mae’n hanfodol bod gan ein papurau lleol ddyfodol iach a hynny thrwy ein cefnogaeth ni yn ystod yr adegau anodd hyn.

Ar y pwnc o ddemocratiaeth, neu ddiffyg democratiaeth yn yr achos yma, rydw i wedi bod yn siomedig iawn gyda chynlluniau’r BBC ar gyfer rhaglen dadl arweinwyr y pleidiau o flaen yr Etholiad Cyffredinol. Mae dadl yr arweinwyr, a fydd yn gweld arweinwyr y tair plaid Brydeinig yn dadlau yn erbyn ei gilydd, yn neilltuo ac ynysu tair o’r pedair gwlad sy’n rhan o’r DU a’r ddwy blaid sy’n ffurfio llywodraeth yng Nghymru a’r Alban. Nid oes unrhyw ystyriaeth wedi cael ei roi i sicrhau sylw cytbwys sy’n adlewyrchu gwahanol sefyllfaoedd gwleidyddol y DU. Mae Plaid Cymru wrth gwrs mewn Llywodraeth yng Nghymru, ac yn ail blaid fwyaf yn ein Cynulliad Cenedlaethol, ond ni fydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y trafodaethau ledled y DU. Mae pethau wedi newid ac mae angen i sefydliadau fel y BBC i ddeall realiti newydd y setliad datganoli sydd wedi sicrhau bod Senedd yr Alban, y Cynulliadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol am nifer o feysydd polisi allweddol, gan gynnwys iechyd ac addysg.

Oni bai bod y darllediadau sy’n arwain at yr etholiad yn deg, diduedd a chywir byddai rhai yn cwestiynu dilysrwydd a chywirdeb canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol. Unwaith eto, rwy’n credu bod y BBC wedi methu a chynrychioli pobl Cymru a’r Alban.

Man Trafod - Rhowch sylwad yma
Discussion Area - Submit a comment

Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.

Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.


Nerys' Journal
Nodiadan Nerys

News and Journal Archive /
Newyddion ac Archif Nodiadau