Nodiadau Mis Tachwedd
30 November 2009
Un o ymrwymiadau allweddol cytundeb Cymru’n Un oedd sicrhau bod Cymru, sydd yn un o wledydd tlotaf Ewrop, yn derbyn ei chyfran deg o arian gan San Steffan. Mae adroddiad diweddar Holtham yn amcangyfrif bod Cymru yn colli o leiaf £300m y flwyddyn yn ogystal â hyd at £8.5bn dros y ddegawd nesaf. Bellach mae arbenigwyr annibynnol yn cyfaddef bod Cymru o dan anfantais sylweddol ar hyn o bryd o dan y Fformiwla Barnett – sy’n achosi caledi a thoriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Nid oes fawr o amheuaeth bod y fformiwla yn fethiant ac rydym dro ar ôl tro wedi galw ar Llywodraeth Llafur Llundain i weithredu ar yr argymhellion yn Adroddiad Holtham ac nid torri’r cyllid i Gymru ymhellach hyd nes bod fformiwla addas arall yn cael ei roi ar waith. Yn wir, mae Llywodraeth Llafur Llundain wedi cydnabod bod Cymru yn colli allan – ond eto yn gwrthod gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae Llywodraeth Lafur Llundain wedi datgan y byddant yn gwneud dim i newid y system tan bo’ Cymru ‘o dan anfantais anghymesurol’. Nawr, os nad yw colli gwerth £8.5 biliwn yn ystod y ddeng mlynedd nesaf yn golygu bod Cymru ‘o dan anfantais anghymesurol’ dydw i ddim yn gwybod beth sydd.
Mae swyddi lleol yn cael eu colli a gwasanaethau hanfodol yn dioddef oherwydd nad yw Cymru’n cael bargen deg. Mae angen i gynrychiolwyr y pleidiau Llundain yng Nghymru fynd a’r neges at eu penaethiaid yn Llundain. Mae pobl Cymru yn talu eu trethi yn union fel pawb arall, ac nid ydynt yn haeddu’r holl doriadau o Lundain.
Mae heddiw yn Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Mae dros 375,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sy’n darparu gofal a chefnogaeth i deuluoedd, ffrindiau a chymdogion, sy’n werth tua £4.69 biliwn y flwyddyn. Mae ymgyrch Diwrnod Hawliau Gofalwyr, sy’n cael ei gynnal gan Carers UK, yn ceisio cynyddu’r nifer o ofalwyr sy’n manteisio ar fudd-daliadau a chodi ymwybyddiaeth o’u hawliau a’r cymorth sydd ar gael i ddiogelu eu pensiynau.
Rwy’n pryderu nad yw gofalwyr yn cael y cymorth sy’n ddyledus iddynt. Mae gofalwyr yn cyflawni rôl allweddol yn ein cymdeithas a heb eu gwaith ni fyddai’r GIG a’r system gofal cymdeithasol yn gallu ymdopi. Mae Carers UK yn annog gofalwyr i ffonio eu llinell gyngor (0808 808 7777 neu www.carersuk.org) er mwyn derbyn llyfryn rhad ac am ddim sy’n cynnwys gwybodaeth berthnasol i gynorthwyo gofalwyr i dderbyn y cymorth y maent yn eu haeddi.
Man Trafod - Rhowch sylwad yma
Discussion Area - Submit a comment
Bydd eich ateb yn cael ei gymedroli, ac ni fydd yn ymaddangos yn syth. Medrwch baratoi eich testun mewn prosesydd geiriau cyn ei roi yn y bocs, ond ni fydd elfennau megis trwmder tecst a lliw yn ymddangos.
Your reply will be moderated and not appear immediately. You can prepare your text in a word processor before pasting it into the box, but formatting such as bold and colour will not appear.