Search / Chwiliwch

Bandllydan

Mae diffyg band eang yn broblem fawr ac mae’n hanfodol ein bod yn gwella’r ddarpariaeth yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer Band Eang yng nghefn gwlad Cymru rwyf wedi bod yn casglu tystiolaeth o bentrefi ac ardaloedd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru i ddarganfod sut yn union y mae diffyg band eang yn effeithio ar fywydau pobl bob dydd. Rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda thrigolion lleol mewn pentrefi fel Llanpumsaint, Bronwydd, Mynachlog-ddu, Cilycwm ac Amroth ymhlith eraill i geisio darganfod faint o bobl sydd yn methu a derbyn band eang ar hyn o bryd ond yn dymuno a gwneud. Yna, rydym wedi bod yn cofrestru unigolion gyda chynllun RIBS y Cynulliad. Mae’r cynllun RIBS wedi’i gynllunio’n benodol i ddarparu band eang o safon uchel a hynny am brisiau fforddiadwy yn cymharu’n ffafriol ag ardaloedd trefol Cymru.

Mae ein gwaith ymchwil yn dangos yn glir bod diffyg band eang yn effeithio’n ddifrifol ar yr economi leol. Mae cwmnïau lleol yn ei chael hi’n amhosibl cyfathrebu’n effeithiol neu i brynu nwyddau ar-lein tra bod y rhieni sy’n gweithio yn ei chael yn amhosibl gweithio o gartref. Gwaneth un busnes hyd yn oed amcangyfrif ei fod yn colli hyd at £ 30,000 y flwyddyn o ganlyniad i beidio â chael band eang. Mae hon yn broblem enfawr ar gyfer busnesau gwledig sy’n dioddef o’u cymharu â busnesau trefol. Mae’n bosibl y gall busnes ddewis i fuddsoddi mewn mannau eraill sy’n golygu bod cymunedau gwledig yn dioddef yn economaidd. Yn ail, efallai na fydd ardaloedd gwledig yn gallu derbyn gwasanaethau masnachol a chyhoeddus drwy fand eang, sy’n golygu bod pobl yn cael eu heithrio’n gymdeithasol o ganlyniad i’w lleoliad yn ddaearyddol.

Fodd bynnag, rwy’n falch iawn o weld bod y mater hwn yn cael ei ystyried o ddifrif gan Lywodraeth Cymru’n Un, ac rwy’n gwybod bod Ieuan Wyn Jones, yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob rhan o Gymru yn cael mynediad i fand eang. Yn wir, yn dilyn ymgyrch ar y cyd â’r cynghorau cymuned ym Mronwydd a Llanpumsaint mae pobl leol a busnesau lleol o’r diwedd wedi cael eu cysylltu â band eang. Fe wnes i wahodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, i gyfarfod cyhoeddus llawn yn Neuadd Bronwydd ym mis Gorffennaf 2008 i wrando yn uniongyrchol ar farn y gymuned ar y mater pwysig hwn. O ganlyniad, penderfynwyd y Llywodraeth y byddai Bronwydd a Llanpumsaint yn ddau o chwe’ ardal y byddai’n derbyn band eang yn 2009.

Roeddwn hefyd yn falch iawn i glywed y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd Ieuan Wyn Jones yn datgan bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio arian Ewropeaidd i wella gwasanaeth band eang cyflymder cyflym ar gyfer busnesau a chymunedau. Mae’r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud yn dilyn cytundeb gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, sydd bellach yn golygu, yn ychwanegol i gefnogi gweithgareddau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) megis gweithgareddau cynhwysiant digidol, gall arian Ewropeaidd nawr gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau band eang ar gyfer y rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.

Mae’n amlwg o’r ymateb yr ydym wedi’i gael gan bobl ledled y rhanbarth pa mor bwysig mae’r mater hwn yn cael ei ystyried yng nghefn gwlad Cymru ac os hoffech i ni i ymgyrchu neu ymgymryd â gwaith ar y mater hwn yn eich ardal chi, yn debyg i’r gwaith a wnaethom ym Mronwydd a Llanpumsaint, yna cysylltwch ag Iwan Evans yn fy swyddfa.

News Releases
Datganiadau i'r Wasg

Nerys' Journal
Nodiadau Nerys