Iechyd
Yn dilyn ymgynghori eang rwy’n croesawu’n fawr y datganiad gan y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi bod y Cynllun Iechyd Gwledig wedi’i gwblhau. Mae’r cynllun, sy’n bolisi Plaid Cymru, yn anelu at fynd i’r afael â’r heriau a wynebir wrth sicrhau bod pobl yn derbyn gofal iechyd priodol – yn enwedig mewn cymunedau sydd â phoblogaeth wasgaredig. Hwn yw’r cynllun cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae ei ddatblygiad yn sicrhau gwireddu un arall o ymrwymiadau Cymru’n Un. Mae’n gam pwysig tuag at wella iechyd gwledig a gwasanaethau iechyd gwledig yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Iechyd Gwledig yn rhywbeth yr ydym fel Plaid wedi bod yn ymgyrchu amdano am gyfnod hir ac mae’n braf gweld un arall o ymrwymiadau Cymru’n Un yn cael ei wireddu. Rydym eisiau gallu darparu cymaint o wasanaethau â phosibl yn lleol. Wrth gwrs, rydym yn sylweddoli y bydd cleifion yn dal i orfod teithio ar gyfer y gwasanaethau mwy arbenigol ond ar hyn o bryd nid ydym bob amser yn gallu darparu rhai o’r gwasanaethau mwyaf rheolaidd a syml yn lleol ac yn ein hardaloedd gwledig. Mae angen i ni integreiddio gwasanaethau a defnyddio sgiliau holl staff y GIG yn yr ardaloedd gweldig er mwyn ein galluogi i wella gofal i gleifion a sicrhau mwy o gyfleoedd gyrfa ar gyfer staff.
Mae’n bwysig yn awr i symud ymlaen â’r cynllun ac o’r hyn yr wyf yn ei ddeall bydd grŵp gweithredu yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn newydd i symud ymlaen gyda gwaith ymarferol y Cynllun Iechyd Gwledig.