Search / Chwiliwch

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff datganoledig sy’n trafod polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth yn ymwneud â Chymru, ac yn dyrannu’r arian a rennir iddo gan Lywodraeth y DU. Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.

Senedd building in Cardiff Bay

Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad (Aelod Cynulliad – AC). Mae 40 o’r aelodau yn cynrychioli etholaeth un aelod, ac mae’r 20 sy’n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pump etholaeth rhanbarthol yng Nghymru.

Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor o bedair mlynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau diwethaf ym 1999, 2003 a 2007.

Dirprwyir pwerau gweithredol y Cynulliad i Brif Weinidog y Cynulliad. Dirprwya’r Prif Weinidog yn ei dro gyfrifoldeb am gyflawni’r swyddogaethau gweithredol i Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ffurfio’r Cabinet. Rheolir gweithgareddau’r Cynulliad gan y Llywydd, sydd ei hun yn Aelod Cynulliad.

Prif gorff ymgynghorol ar gyfer addysg y Cynulliad yw’r Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch I safle gwe Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.cynulliadcymru.org

News Releases
Datganiadau i'r Wasg

Nerys' Journal
Nodiadau Nerys